Cyfranna Prifysgol Aberystwyth at gryfderau’r bartneriaeth ym meysydd :
Mae gan y Brifysgol bartneriaeth sefydledig â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ar sail y cysylltiad cryf hwn mae Aberystwyth wedi datblygu hyfforddiant arloesol mewn dulliau’r Dyniaethau Digidol.
Mae Bath Spa wrth wraidd nod y Bartneriaeth o ran datblygu ymchwil o fewn ymarferiad creadigol. Mae’n dod â hyfforddiant sefydledig a sylweddol ym maes ymchwil a arweinir gan ymarferiad. Mae darpariaeth hyfforddiant ac arbenigedd Bath Spa yn cwmpasu
Gall myfyrwyr fanteisio ar gyfleusterau’r Brifysgol megis stiwdios cyfryngau digidol newydd yn Newton Park, stiwdio celfyddydau gweledol a gofodau gweithdy crefft yn Sion Hill a Corsham Court. Gallent hefyd elwa o bartneriaeth Bath Spa â’r Holburne Museum a’i chasgliadau a’i harchifau, ac o’r Centre for Environmental Humanities.
Mae Prifysgol Bryste yn cryfhau grwpiau ymchwil y bartneriaeth yn y meysydd canlynol:
Cyniga arbenigedd blaenllaw mewn astudiaethau creadigol ac ymchwil sy’n seiliedig ar ymarferiad, yn enwedig mewn:
Gall myfyrwyr wneud defnydd o Gasgliad Theatr y Brifysgol, sydd ymhlith y casgliadau mwyaf yn y maes yn y DU. Mae hefyd yn ychwanegu capasiti ar gyfer Cyfraith sy’n canolbwyntio ar y Dyniaethau.
Ychwanega Prifysgol Caerdydd at gryfderau allweddol y bartneriaeth o ran:
Mae aelodaeth y Brifysgol o’r bartneriaeth yn ehangu’r sgôp ar gyfer ymchwil ar Ysgrifennu Creadigol yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ar Gyfieithu, yn ogystal ag ychwanegu at allu’r SWWDTP yn y Gyfraith. Mae ‘Llyfrau Prin Caerdydd’ yn gasgliad o bwys rhyngwladol sy’n cefnogi ymchwil ar draws pynciau’r Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Mae Prifysgol Cranfield, trwy ei Grŵp Dadansoddi Archaeolegol a Fforensig, yn darparu ystod eang o arbenigedd gwyddonol a dadansoddol ar gyfer y cymunedau archeolegol a fforensig.
Mae Prifysgol Caerwysg yn cryfhau pedwar grŵp ymchwil blaenllaw’r bartneriaeth o ran:
Mae’n ymestyn gallu yn y Clasuron ac mewn Astudiaethau Iaith a Diwylliannol gydag arbenigedd nid yn unig mewn ieithoedd Ewropeaidd ond hefyd, yn unigryw, Cwrdeg a Pherseg.
Cefnogir ei harbenigedd mewn Astudiaethau Ffilm gan Amgueddfa Sinema Bill Douglas, un o’r casgliadau mwyaf o ddeunydd yn ymwneud â’r ddelwedd symudol ym Mhrydain; mae ei Labordy Dyniaethau Digidol yn cefnogi ystod eang o ymchwil disgyblaethol a rhyngddisgyblaethol.
Amgueddfa Cymru | National Museum Wales drwy Siarter Frenhinol ym 1907. Ei hamcan craidd yw ‘hyrwyddo addysg y cyhoedd’ sy’n cynnwys datblygu, gofalu am, astudio a chynnal mynediad i’w chasgliadau er budd cymdeithas heddiw a chenhedloedd y dyfodol. Mae gan yr Amgueddfa allu ymchwil ar draws ystod o ddisgyblaethau yn y Dyniaethau:
Mae’r Amgueddfa hefyd yn gorff hyfforddi blaenllaw mewn disgyblaethau amgueddfeydd.
Mae Reading ymhlith arweinwyr y DU ym meyseydd
Mae’r Brifysgol yn ymestyn cryfderau’r bartneriaeth mewn Ieithoedd ac Astudiaethau Diwylliannol, yn arbennig Saesneg (gan ei bod yn gartref i’r Samuel Beckett Collection), Ffrangeg ac Eidaleg. Ychwanega Reading at gwmpas ymchwil y Bartneriaeth ym meysydd Ffilm a Pherfformio drwy’r Centre for Film Aesthetics and Cultures a’r Mingehlla Studios ac ym maes Dylunio drwy ei hadran Teipograffeg a Chyfathrebu Graffeg. Cyfranna Reading at y gwaith a wneir ar draws y Bartneriaeth ar ymchwil y Dyniaethau ar y Gyfraith.
Atgyfnertha Southampton arbenigedd allweddol y Bartneriaeth mewn
Hefyd yn ased yw amgylchedd rhyddisgyblaethol grwpiau ymchwil WSA a Parkes Institute Southampton, ynghyd â chasgliadau unigryw yr archifau Eingl-Iddewig yn Hartley Library Special Collections a chysylltiadau Southampton â Tate Exchange, Transmediale (Berlin), the Chawton House Library a’r Centre for Modern and Contemporary Writing.
Mae UWE yn cryfhau gallu’r Bartneriaeth ar draws ystod o bynciau gan gynnwys
Dyniaethau Digidol drwy’r Centre for Fine Print Research, Digital Research Centre a’i Moving Image Unit.
© 2025 South, West & Wales Doctoral Training Partnership