Cwrdd â Thîm y SWWDTP
Tamar Hodos, Cyfarwyddwr
Mae Tamar yn arweinio a hyrwyddo rhaglen y SWWDTP ar draws y consortiwm yn ei gyfanrwydd gan gyd-weithio â’r UKRI/AHRC ar faterion yn ymwneud â pholisi. Mae hi’n cadeirio’r Bwrdd Gweithredu Rhaglennol, y Bwrdd Gwobrwyo Ysgoloriaethau, Fforwm y Myfyrwyr ac yn mynychu’r Bwrdd Rheolaethol.
Archeolegydd Canolforol yw Tamar ac eistedda ei diddordebau ymchwil ar ryngwyneb meysydd diwylliannau materol, gweledol a llenyddol. Mae’n ymgymryd â gwaith maes archeolegol gan arwain dadansoddiadau ôl-gloddfaol rhyngddisgyblaethol drwy dynnu ar amrywiaeth o fethodolegau. Mae hefyd ganddi gefndir yn y celfyddydau perfformio fel pianydd cyngerdd). O ganlyniad i hyn, mae ganddi ddealltwriaeth uniongyrchol o amrywiaeth y sgiliau ymchwiliol, yr agweddau, y methodolegau a’r ymarferion sy’n rhan o waith myfyrwyr y SWWDTP. Yn ogystal â hyn, mae ganddi rôl ddinesig ym Mryste fel cadeirydd Pwyllgor Cynghorol y ddinas ar Addysg Grefyddol (SACRE), sef corff statudol Cyngor Dinas Bryste sy’n cefnogi darpariaeth Addysg Grefyddol yn ysgolion Bryste. Mae ei rôl ar y pwyllgor hwn yn golygu ei bod yn ymwneud â materion EDI er mwyn hybu cydraddoldeb a diogelwch mewn cyd-destunau dysgu ac addysgu. Mae’n aelod o Grŵp Cynghorol Prifysgol Bryste ar Ryddid i Lefaru ac o Gyngres y Brifysgol. Mae’r profiadau hyn yn ei galluogi i weithio yn effeithlon â chyd-weithwyr ar draws y consortiwm er mwyn sicrhau bod gan fyfyrwyr ein partneriaeth ddoethurol y gefnogaeth orau sydd ei hagen arnynt drwy gydol eu rhaglenni doethurol.
Email: t.hodos@bristol.ac.uk
Chantelle Payne, Rheolwr
Chantelle sy’n gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth weithredol a rheolaethol ar gyfer y bartneriaeth ddoethurol. Hi yw’r prif bwynt cyswllt o ran polisi gweithredol a chydweithrediad. Mae Chantelle yn gweithio ym maes addysg uwch, ac yn benodol o fewn prosiectau cydweithredol, ers 9 mlynedd a chyn iddi ymgymryd â’r gwaith hwn, bu’n gweithio yn y sector preifat ym meysydd cyllid a Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS). Tu allan i’r gwaith, mae’n mwyhau ymlacio gyda’i bachgen bach neu ddarllen pan gaiff gyfle.
Luke Thornburry, Gweinyddwr yr Hwb
Darpara Luke gefnogaeth weinyddol ar gyfer gweithgareddau rhaglennol y SWWDTP drwy weithio fel pwynt cyswllt i fyfyrwyr a chyd-weithwyr o fewn y consortiwm, gan gynnwys darpar-ymgeiswyr.
Daw Luke ag amrediad o brofiadau o fewn y sector Addysg Uwch i’w rôl bresennol; bu’n gweithio dros Brifysgol Bryste yn y gorffennol yn ogystal â phrifysgolion Reading ac Oxford Brookes. Rhedwr ysbeidiol yw Luke sydd i’w weld yn hyfforddi o amgylch dinas Bryste, ond mae hefyd wrth ei fodd yn ymlacio ar y soffa yng nghwmni llyfr a mẁg o siocled poeth.
Anona Williams, Hwylusydd Hyfforddiant a Chydweithrediad
Mae Anona yn ymuno â’r thîm SWWDTP o Ysgol Cyfrifeg a Chyllid, Prifysgol Bryste lle y bu’n gweithio fel Rheolwr Ymchwil. Cyn hynny, roedd yn gweithio yng Nghyfadran y Celfyddydau fel Cydlynydd Ymchwil, Digwyddiadau a Cyfathrebu. Mae Anona wedi gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr â chanddynt ystod eang o arbenigeddau er mwyn cynnal digwyddiadau â thraweffaith, hybu ymchwil a sicrhau na chollir unrhyw gyfleodd cyllido. Mae ganddi brofiad tu hwnt i addysg uwch yn sgil ei gwaith blaenorol â Natural History Unit y BBC a thîm cyfathrebu cwmni Dyson. Tu allan i’r gwaith, mae Anona yn ffan o ffilmiau, yn mwynhau mynydda a cheisio creu crochenwaith!
Email: anona.williams@bristol.ac.uk