Mae gan y SWWDTP nifer o dimoedd academaidd a gweinyddol yn ogystal â thimoedd a arweinir gan fyfyrwyr sy’n rheoli gweithdrefnau a datblygiad y bartneriaeth. Nod y timoedd hyn yw cefnogi myfyrwyr a hyrwyddo eu gweithgareddau ymchwil.
Goruchwylia’r Bwrdd Rheolaethol ddatblygiad strategol y bartneriaeth. Mae gan bob aelod o’r consortiwm gynrychiolydd ar y bwrdd. Gan amlaf, academyddion prifysgol hŷn a chanddynt gyfrifoldeb dros ymchwil neu addysg ôl-raddedig yw aelodau’r bwrdd. Cadeirir y Bwrdd gan academydd o Reolaeth Uwch Prifysgol Bryste, sef y sefydliad sy’n gartref i’r SWWDTP. Mae Cyfarwyddwr y bartneriaeth yn atebol i’r Bwrdd Rheolaethol.
Rheola’r Bwrdd Darpariaeth Raglennol weithgareddau’r bartneriaeth ddoethurol ym mhob un o’r sefydliadau sy’n rhan o’r consortiwm. Mae gan bob sefydliad aelod academaidd yn ogystal ag aelod o wasanaethau proffesiynol sy’n eistedd ar y Bwrdd. Mae cadeirydd Pwyllgor Myfyrwyr y Bartneriaeth, sy’n fyfyriwr presennol, hefyd yn aelod o’r Bwrdd. Cadeirir y Bwrdd gan gyfarwyddwr y bartneriaeth.
Rheola Tîm yr Hwb weithgareddau’r bartneriaeth, gan gynnwys recriwtio myfyrwyr a hyfforddiant. Mae’r Hwb wedi’i leoli ym Mhrifysgol Bryste, sy’n gartref i’r bartneriaeth. Mae Tîm yr Hwb yn cynnwys y rheolwr, Cydlynydd Hyfforddiant a Chydweithrediad, Cydlynydd Marchnata a Chyfryngau a gweinyddwr. Gweithia’r Cyfarwyddwr yn agos â Thîm yr Hwb.
Mae Pwyllgor y Myfyrwyr yn cynnwys dau fyfyriwr o bob aelod o’r consortiwm, un sy’n cynrychioli myfyrwyr DTP1 a’r llall sy’n cynrychioli myfyrwyr DTP2. Mae o leiaf un o’r cynrychiolwyr yn fyfyriwr Gwobr a arweinir gan fyfyriwr (neu ‘student-led award’) a’r llall yn fyfyriwr a chanddo/i Wobr Ddoethurol Gydweithredol (neu ‘Collaborative Doctoral Award‘).
Caiff cynrychiolwyr eu dewis gan gyfoedion eu carfan blwyddyn yn eu prifysgolion ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Mae’r Pwyllgor yn cael ei gadeirio gan aelod ohono sy’n cael ei (h)ethol gan yr aelodau eraill mewn cyfarfod arbennig a gynhelir yn gynnar yn y flwyddyn academaidd.
Cynhelir cyfarfodydd y pwyllgor dair gwaith y flwyddyn, sef unwaith bob tymor. Mynycha’r Cyfarwyddwr gyfarfodydd y pwyllgor hwn.
Cynrychiola’r clystyrau ymchwil gyfle i fyfyrwyr ymgynnull er mwyn rhannu diddordebau neu fethodolegau ymchwil trawsddisgyblaethol. Mae gweithgareddau a rheolaeth y clystyrau wedi’u harwain yn gyfan gwbl gan y myfyrwyr, gyda chefnogaeth gyllidol o Dîm yr Hwb.
Cynhelir Diwrnod y Clystyrau ar ddiwedd y tymor cyntaf er mwyn hybu a dangos gweithgareddau’r clystyrau i fyfyrwyr newydd a pharhaol. Mae’r diwrnod penodol hwn hefyd yn galluogi myfyrwyr i sefydlu clystyrau hollol newydd yn unol â diddordebau ymchwil pob carfan newydd o fyfyrwyr. Mae gan y clystyrau fewnbwn uniongyrchol i thema Gŵyl Ymchwil yr Haf a’i rhaglen.
© 2024 South, West & Wales Doctoral Training Partnership