Sefydlwyd y South, West and Wales Doctoral Training Partnership yn 2014 fel consortiwm o sefydliadau partner sy’n  darparu cyfleodd ymchwil i staff a myfyrwyr.

Partneriaid y consortiwm

  • Prifysgol Aberystwyth
  • Amgueddfa Cymru | National Museum Wales
  • Bath Spa University
  • Prifysgol Bryste
  • Prifysgol Caerdydd
  • Cranfield University
  • Prifysgol Caerwysg
  • University of Reading
  • University of Southampton
  • UWE Bristol

Ariennir y bartneriaeth gan the Arts and Humanities Research Council (AHRC) er mwyn darparu ysgoloriaethau a hyfforddiant i ôl-raddedigion.

Mae’r rhaglen yn darparu 200 o wobrau ar draws 5 carfan o fyfyrwyr ac yn cynnwys Gwobrau a Arweinir gan Fyfyrwyr (Student-Led Awards) a Gwobrau Doethurol Cyd-weithredol (Collaborative Doctoral Awards).

Ethos

Mae’r 21ain ganrif yn trawsnewid ymchwil academaidd: mae heriau creadigol a deallusol ein hymholiadau ymchwil bellach wedi’u cyfuno â gofynion cymdeithas ddeinamig sy’n fwyfwy byd-eang. Gofynna’r byd ymchwil newydd hwn am ymchwil a gynhelir o fewn cyd-destunau rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol.

Mae SWW2 wedi ymrwymo i feithrin dulliau creadigol o fewn ac ar draws disgyblaethau a fydd yn datblygu ysgolheigion, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n hyblyg ac sy’n gallu ymateb i gyd-destunau ymchwil a diwydiannol sy’n symud yn gyflym.

Rydym yn darparu hyfforddiant hyblyg, myfyriwr-ganolog sy’n meithrin arbenigedd disgyblaethol ar y cyd â safbwyntiau rhyngddisgyblaethol. Cyfoethogir y rhain gan arbenigedd o safon fyd-eang a’r adnoddau o’r radd flaenaf sydd ar gael yn y deg sefydliad sy’n aelodau o’r consortiwm (sef naw prifysgol flaenllaw ac amgueddfa genedlaethol) yn ogystal â’n sefydliadau partner arloesol.

Cyd-oruchwylio

Caiff eich prosiect ymchwil ei gefnogi gan dimau goruchwylio cydweithredol a ddaw o ddau o sefydliadau’r consortiwm.

Cyniga SWW2 drefniadau goruchwylio ar y cyd rhwng ei sefydliadau consortiwm. Mae hyn yn darparu mynediad heb ei ail ar draws ffiniau sefydliadol i’r arbenigedd mwyaf perthnasol ac arloesol sydd ar gael ar draws ein consortiwm, gan sicrhau bod gan eich brosiect gwmpas eang a dyfnder priodol.

Bydd eich timau goruchwylio traws-sefydliadol cydweithredol yn gweithio gyda’i gilydd, a chyda chi, er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr hyfforddiant pwrpasol sydd ei angen arnoch i ddatblygu eich gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd disgyblaethol a (lle bo’n briodol) rhyngddisgyblaethol. Bydd eich tîm goruchwylio hefyd yn eich helpu i nodi cyfleoedd datblygu gyda’n sefydliadau partner, gan gynnwys mentora, lleoliadau, sgiliau technegol a mwy.

Efallai eich bod eisoes yn adnabod rhywun rydych am weithio gyda nhw. Os felly, bydd yr unigolyn hwnnw yn eich helpu i ddod o hyd i ail oruchwylydd priodol.

Os nad ydych yn sicr o ran sut i ddod o hyd i oruchwylydd, edrychwch ar wefannau aelodau ein consortiwm i ganfod yr unigolyn cywir yn eich disgyblaeth(au) o ddiddordeb.

Dulliau

Mae SWW2 yn tynnu ar amrywiaeth o ddulliau i ymgysylltu’n llawn ag ymchwil trawsddisgyblaethol, traws-sefydliadol a thraws-sector. Yn ogystal ag ymchwil sy’n canolbwyntio ar ddisgyblaeth sy’n ymgorffori dulliau ymchwil sefydledig, cefnogwn hefyd brosiectau sy’n cynnwys cyd-gynhyrchu mewn ymchwil; ymarferiad creadigol fel ymchwil; ymchwil wedi’i alluogi’n ddigidol; ac ymchwil trawsddisgyblaethol.

Pynciau

Mae SWW2 yn cefnogi ymchwil ym meysydd ymchwil sylfaenol yr AHRC canlynol:

  • Archaeoleg
  • Y Clasuron
  • Astudiaethau Diwylliannol ac Amgueddfaol
  • Hanes
  • Y Gyfraith ac Astudiaethau Cyfreithiol
  • Athroniaeth
  • Gwyddoniaeth Wleidyddol ac Astudiaethau Rhyngwladol
  • Theologyddiaeth, Diwinyddiaeth a Chrefydd
  • Dawns
  • Dylunio
  • Drama ac Astudiaethau Theatr
  • Cyfryngau
  • Cerddoriaeth
  • Celfyddydau Gweledol
  • Ieithoedd a Llenyddiaeth
  • Ieithyddiaeth

O fewn pob un, ceir is-feysydd pwnc rydym hefyd yn ymdrin â nhw. Gweler rhestr Disgyblaethau yr AHRC i gadarnhau bod eich maes diddordeb penodol wedi’i gwmpasu gan gylch gwaith y SWWDTP.

© 2024 South, West & Wales Doctoral Training Partnership

Privacy Policy