Y SWWDTP yw’r prif gorff hyfforddiant doethurol ar gyfer myfyrwyr ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn rhanbarthau De a Gorllewin Lloegr a Chymru. Fel hyrwyddwyr manteision rhwydweithiau ac allbynnau rhwng y byd academaidd a’r sectorau cyhoeddus a phreifat, rydym yn cydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau creadigol, diwylliannol, dinesig a masnachol.
Cynigwn dri math o gydweithio:
Mae lleoliadau’n caniatáu i un neu fwy o’n myfyrwyr weithio gyda chi am hyd at chwe mis (neu un mis o leiaf) ar brosiect penodol sy’n helpu eich sefydliad i gyflawni ei nodau strategol. Gallwn weithio gyda chi i ddiffinio sut olwg a fyddai ar y math hwn o gydweithio.
Ysgoloriaeth ymchwil a ariennir i alluogi ymchwil doethurol ar brosiect penodol sy’n cefnogi blaenoriaethau ac amcanion eich sefydliad yw’r hyn a elwir yn GDC. Caiff prosiectau eu cyd-ddylunio gan eich sefydliad a dau oruchwyliwr academaidd o fewn rhwydwaith y SWWDTP. Gall y prosiect arwain at allbynnau uniongyrchol sydd o fudd i chi, yn ogystal â’r traethawd hir ei hun.
Trefniant dwyochrog rhwng eich sefydliad a’r SWWDTP ynghylch cyfleoedd hyfforddi mewnol yw ein rhaglen hyfforddi. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i wella’r sgiliau ymchwil a gwerthuso beirniadol y byddwn yn eu darparu i’ch sefydliad. Yn eu tro, byddai ein myfyrwyr yn gallu cymryd rhan mewn agweddau o’ch rhaglen hyfforddiant fewnol eich hun a fyddai’n gwella eu cyflogadwyedd.
Os daw rhywbeth arall i’ch meddwl a allai weithio i chi, cysylltwch â ni.
Rydym yn darparu mynediad i ymchwilwyr o safon uchel iawn sydd ag ystod o setiau sgiliau a chefndiroedd. Mae pob ymchwilydd yn dod â’u harbenigedd a’u profiad unigryw o fewn a thu hwnt i’w meysydd pwnc. Mae llawer wedi gweithio mewn diwydiant cyn iddynt ymgymryd ag ymchwil PhD.
Gall partneriaid ddefnyddio arbenigedd a sgiliau ein hymchwilwyr sy’n cyd-fynd â’u hanghenion sefydliadol. Gallai hyn gynnwys mynd i’r afael â bylchau sgiliau, meithrin cymhwysedd, a chynyddu adnoddau i gynyddu a datblygu llwybrau a gwybodaeth newydd.
Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni drwy e-bostio:swwdtp-enquiries@bristol.ac.uk
© 2024 South, West & Wales Doctoral Training Partnership