Mae’r SWWDTP yn parhau â’i hymdrechion i gynyddu amrywiaeth o fewn y rheini sy’n derbyn ysgoloriaethau. Rydym yn annog unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i ymgeisio.
Ein nod yw darparu ysgoloriaethau i o leiaf 5 ymgeisydd sy’n rhan o’r Mwyafrif Byd-eang yn ogystal â 3 ymgeisydd sydd ag anableddau. Nid cwotâu mo’r targedau hyn; yn hytrach maent wedi’u gosod er mwyn annog ymgeiswyr i gyflwyno ceisiadau. Dim ond i’r ceisiadau sy’n gwireddu disgwyliadau ansawdd uchel y bartneriaeth a fydd yn derbyn cynigion ysgoloriaethau.
Gweithredwn yn unol â holl ddeddfwriaeth briodol ynghylch gweithredu cadarnhaol ac nid ydym yn gwahaniaethu’n gadarnhaol.
Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr o unrhyw oed, gan gynnwys myfyrwyr hŷn a’r rheini sydd wedi cymryd saib o’u hastudiaethau ers y radd feistr. Rydym hefyd yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn a chanddynt brofiad neu wybodaeth broffesiynol ond sydd heb astudio M.A..
Croesawn geisiadau gan unigolion a chanddynt gyfrifoldebau gofalu. Yn wir, mae gan lawer o’n myfyrwyr gyfrifoldebau o’r fath. Mae goruchwylwyr a Thîm Hwb y SWWDTP yn ceisio cynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl. Yn aml, mae gwaith doethurol yn ei hanfod yn fwy hyblyg na chyrsiau a addysgir.
Nid yw profiad gwaith blaenorol yn eich maes diddordeb yn hanfodol. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y naill fath neu’r llall o ysgoloriaeth y SWWDTP, fel arfer dylai fod gennych, neu fod wrthi’n astudio ar gyfer, gradd Meistr neu gymhwyster ôl-raddedig tebyg.
Os nad oes eisoes gennych brofiad o astudiaethau ôl-raddedig ffurfiol, ni fyddech yn gymwys oni bai eich bod yn gallu dangos tystiolaeth o brofiad parhaus y tu hwnt i’ch gradd israddedig sy’n uniongyrchol berthnasol i’ch pwnc ymchwil arfaethedig a/neu fethodoleg y gellid ei ystyried yn gyfwerth ag astudiaeth Meistr.
© 2025 South, West & Wales Doctoral Training Partnership