Mae myfyrwyr SWWDTP yn cymryd rhan mewn clystyrau ymchwil trawsddisgyblaethol er mwyn ymestyn eu datblygiad ymchwil a’u hyfforddiant y tu hwnt i’r meysydd ymchwil unigol a phenodol. Mae’r clystyrau wedi’u datblygu o amgylch themâu a chwestiynau o bwys a chwmpas eang a fydd yn galluogi deialog a chyfnewid trawsddisgyblaethol.
Current and past SWWDTP clusters
Sut y mae’r clystyrau yn gweithio?
- Arweinir clystyrau ymchwil y SWWDTP gan fyfyrwyr, gyda chymorth a chyngor academaidd.
- Gall myfyrwyr ymwneud â sawl clwstwr.
- Mae’r clystyrau yn addasu i anghenion pob carfan ac rydym yn annog myfyrwyr i sefydlu clystyrau rhyngddisgyblaethol newydd yn seiliedig ar eu diddordebau ymchwil.
- Cymer myfyrwyr ran mewn trafodaethau a dadleuon ar draws ffiniau sefydliadol gan ddefnyddio grŵp Facebook clwstwr ymchwil y SWWDTP ac ar ddiwrnodau carfan chwe-misol.
- Trefna myfyrwyr weithgareddau a digwyddiadau clwstwr ymchwil, gyda chymorth academaidd a gweinyddol y bartneriaeth lle bo angen.
- Daw’r gweithgareddau trawsddisgyblaethol â myfyrwyr, academyddion a chynrychiolwyr o’n partneriaid allanol ynghyd i archwilio pynciau ac adnoddau o ddiddordeb a rennir.
- Mae gweithgareddau posibl yn cynnwys cynadleddau, gweithdai, seminarau, sesiynau poster, dangosiadau, digwyddiadau cyhoeddus, perfformiadau, ymweliadau a theithiau cerdded…mae’r rhestr yn ddiderfyn!
- Gall myfyrwyr gyflwyno ceisiadau i’r SWWDTP am gyllid i gefnogi gweithgareddau clwstwr.