Darganfyddwch fwy am y clystyrau ymchwil a arweinir gan fyfyrwyr yn y gorffennol.

Canfyddiadau Cyn-fodern (Pre-modern encounters)

Sut mae syniadau a deunyddiau cyn-fodern wedi’u derbyn a’u hail-ddehongli dros amser?

Mae ‘Canfyddiadau Cyn-fodern’ yn ystyried agweddau cysyniadol ac ymarferol ar berthnasedd, adnabod a dehongli gwrthrychau treftadaeth, a’r angen dros gyfnewid cynhyrchiol rhwng blaenoriaethau academaidd a chyhoeddus.

Darllennwch flòg y clwstwr yma (yn Saesneg)

Nôl i’r brig

STEAM

Sut mae, a sut  bydd, y celfyddydau a’r dyniaethau yn llywio ein dealltwriaeth o wyddoniaeth a thechnoleg?

Mae ‘STEAM Subjects and Objects’ yn ystyried i ba raddau y mae gwyddonwyr yn dysgu gan ymchwilwyr yn y celfyddydau a’r dyniaethau, a sut y gellid defnyddio’r celfyddydau a’r dyniaethau fel ffordd o gyfathrebu a meddwl am ddarganfyddiadau gwyddonol.

Darllenwch flòg y clwstwr (yn Saesneg) yma.

Nôl i’r brig

Theori ac Ymchwil mewn Ymarferiad (TRIP)

Beth all theori ac ymarferiad creadigol ddysgu o’i gilydd?

Mae ‘Theori ac Ymchwil ar Sail Ymarferiad (TRIP)’ yn archwilio’r cwestiynau canlynol:

  • Beth yw natur ymarferiad fel ymchwil?
  • A yw’n wahanol i ymchwil a arweinir gan ymarferiad neu ymchwil ymarfer creadigol?
  • I ba raddau y gellir ystyried bod arferion ymchwil creadigol a beirniadol yn creu patrwm newydd ar gyfer cynhyrchu gwybodaeth?

Darllenwch fwy am y clwstwr TRIP (yn Saesneg) yma  

Nôl i’r brig

Ymgorfforiad

Wedi’i greu gan ein myfyrwyr, mae’r clwstwr yn cymryd y corff fel testun ei ymchwil a’i weithgareddau gan ystyried yr hyn a olygir gan y gair ar draws ystod o ddulliau a ffyrdd astudio gwahanol.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Y corff fel gwrthrych gwyddoniaeth trydydd person neu astudiaethau dadansoddol eraill
  • Y corff fel sylfaen profiad person cyntaf a gweithredu mewn pynciau sy’n seiliedig ar ymarferiad
  • Y corff fel sianel rhwng dyn a diwylliant yn y gwyddorau cymdeithasol.

Mae’r ffocws ymchwil allweddol cychwynnol yn cynnwys:

  • Y berthynas rhwng y meddwl, y corff a’r byd
  • Sut rydyn ni’n profi ein hymgorfforiad trwy’r synhwyrau
  • Sut y gellir dieithrio meddwl a chorff oddi wrth ei gilydd trwy gyfryngau newydd a llwyfannau rhithiol.

Darllenwch flòg y clwstwr

Dilynwch ar Twitter: @EmbodimentDTP

Nôl i’r brig

Cyfieithu, Cynrychioli, Addasu a Symudedd (TRAM)

Nodau craidd y clwstwr ‘TRAM’ yw ystyried syniadau o gyfieithu, cynrychioliad, addasu, a symudedd mewn lleoliadau cynyddol fyd-eang. O ystyried yr hinsawdd wleidyddol sy’n newid yn barhaus, daw’r clwstwr at ei gilydd i edrych ar wahanol ddulliau o (hunan)-gynrychioli, a sut mae’r rhain wedi’u hymgorffori a’u hail-greu yn bennaf mewn llenyddiaeth, diwylliant gweledol, cyfryngau cymdeithasol, a’r wasg.

Mae cyd-destunau ac ideolegau gwleidyddol cyfnewidiol y byd sydd ohoni  yn gwneud gwerthoedd y clwstwr hwn hyd yn oed yn fwy perthnasol a deniadol.

Dilynwch ar Twitter: @TRAMcluster

Nôl i’r brig

Gwleidyddiaeth, Cymuned, Diwylliant

Canolbwyntia ‘Gwleidyddiaeth, Cymuned, Diwylliant’ ar gymunedau a diwylliannau gwleidyddol, yn ogystal â gwleidyddiaeth ddiwylliannol a chymunedol yn ehangach. Nod y clwstwr dod â  diddordebau ymchwil ynghylch gwleidydda ar lawr gwlad, adeiladu hunaniaeth a naratifau torfol ynghyd. Gellir ffurfio’r rhain mewn gwahanol ardaloedd, ac mewn ymateb i wahanol ddigwyddiadau, symudiadau a phrosesau gwleidyddol.

Mae’r clwstwr yn gofyn cwestiynau megis:

  • Beth yw’r hyn a olygir gan fod yn wleidyddol a sut mae person yn dod yn wleidyddol?
  • Ym mha ffyrdd mae cymunedau gwleidyddol yn cael eu siapio a pha fath o straeon maen nhw’n eu cynnig? Sut rydyn ni’n archwilio eu profiadau?
  • Pam bod y ffocws hwn ar ddiwylliant a chymuned wedi ennyn diddordeb a trafodaethau gwleidyddol diweddar?
  • Sut rydyn ni’n gosod ein hunain fel bodau gwleidyddol o fewn ein hymchwil?

Mae’r clwstwr yn archwilio’r themâu hyn drwy amrywiaeth o ddulliau, o fethodolegau cyfranogol, a arweinir gan ymarferiad a gweithgareddau yn y gymuned, i’r rhai mwy confensiynol yn y byd academaidd.

Nôl i’r brig

© 2024 South, West & Wales Doctoral Training Partnership

Privacy Policy