Mae themâu ein clystyrau ymchwil yn cael eu dewis gan ein myfyrwyr i alluogi deialog trawsddisgyblaethol a chyfnewid gwybodaeth y tu hwnt i feysydd ymchwil unigol.

Deall Newid

Sut mae newid yn dod i’r fei? Sut caiff ei ddychmygu, ei brofi a’i werthuso?

Mae ‘Deall Newid’ yn archwilio cwestiynau sydd wrth wraidd llawer o ymchwil yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau: sut a pham mae newid yn digwydd a pha effaith sydd ganddo?

Mae trafodaethau’r clwstwr yn archwilio trawsnewid gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol ac yn craffu ar ddulliau damcaniaethol ac empirig a geir ar draws disgyblaethau.

Arweinir clwstwr

  • Mark Higgins (Prifysgol Bryste)
  • Elisa Ramirez Perez (Prifysgol Caerdydd)
  • Maria Rupprecht (Prifysgol Bryste)

Dilynwch ‘Deall Newid’ ar Twitter: @changecluster

Nôl i’r brig

Astudiaethau Cof

Wedi’i greu gan ein myfyrwyr, mae’r clwstwr rhyngddisgyblaethol hwn yn dod ag ysgolheigion ar draws y celfyddydau a’r dyniaethau ynghyd i ddadansoddi sut mae digwyddiadau’n cael eu cofio a’u coffáu.

Mae’r clwstwr ymchwil yn ceisio deall effaith y cof ar ddiwylliant, cymdeithas a gwleidyddiaeth. Rydym yn mynd i’r afael ag ystod o bynciau gan gynnwys yr enghreifftiau canlynol:

  • hanes o’i gymharu â’r cof
  • cof cyfunol
  • cofweddau
  • trawma
  • hunaniaeth genedlaethol
  • gwrth-gof
  • coffáu
  • astudiaethau amgueddfa

Arweinwyr clwstwr

  • Sebastian Bustamante-Brauning (Prifysgol Bryste)
  • Erica Capecchi (Prifysgol Bryste)
  • Sandy Gale (Prifysgol Bryste)
  • Iona Ramsay (Prifysgol Caerwysg)

Darllenwch fwy am y clwstwr yma

Dilynwch y clwstwr ar Twitter: @MemoryStudiesSW

Nôl i’r brig

Rhywedd a Rhywioldeb

Wedi’i greu gan ein myfyrwyr, mae’r clwstwr yn archwilio themâu sy’n ymwneud â rhywedd a rhywioldeb ar draws ystod o ddisgyblaethau.

Arweinwyr  clwstwr

  • Abby Ashley (Prifysgol Bryste)
  • D’Qrill (Prifysgol Bryste)

Darlenwch flòg clwstwr Rhywedd a Rhywioldeb yma

Dilynwch y clwstwr ar Twitter: @swwgender

Nôl i’r brig

Ffigurau yn y Dirwedd

Mae’r clwstwr hwn yn tynnu ar nifer o syniadau a chysyniadau cysylltiedig, gan gynnwys:

  • ecofeirniadaeth
  • astudiaethau anifeiliaid
  • hanes tirweddau
  • damcaniaethau am leoedd
  • topograffeg a chartograffeg
  • natur mewn rhyfel
  • gwaith maes
  • cadwraeth a threftadaeth
  • ffermio ac amaethyddiaeth
  • seinweddau ac amgylcheddau acwstig
  • anheddau a llety
  • tirnodau
  • ymylon
  • tiriogaethau ymylol
  • deunyddiau crai
  • llwybrau a thraciau
  • tirwedd a llafur
  • diwylliant gwledig a gwerin
  • brogarwch
  • amgylcheddiaeth
  • diwylliant materol

Nod y clwstwr yw archwilio’r berthynas rhwng dynoliaeth a’r byd naturiol dros amser, ar draws disgyblaethau, a thu hwnt i gyfyngiadau academaidd. Mae’n asesu effaith dynoliaeth ac anifeiliaid ar yr amgylchedd, ac yn archwilio cynrychioliadau diwylliannol o’r hyn a elwir yn ‘dirwedd’.

Un o nodau’r clwstwr yw adeiladu ar enw De Orllewin Lloegr fel canolbwynt gweithgareddau amgylcheddol a syniadau gwyrdd, fel y dangosir gan fentrau megis

  • The Eden Project
  • The Coleridge lectures
  • The Bristol Green Capital partnership

Darllenwch fwy am Ffigurau yn y Dirwedd yma

Dilynwch ar Twitter: @inthelandscape

Nôl i’r brig

Creadigrwydd mewn ymchwil

Mae’r clwstwr hwn yn archwilio pob math o greadigrwydd mewn ymchwil academaidd, gan weithio ar draws ystod o ddisgyblaethau. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn archwilio’r cwestiynau canlynol:

  • Sut y gellir defnyddio creadigrwydd i ddatblygu syniadau gwreiddiol neu i wella meddwl beirniadol?
  • Sut y gellir dadansoddi ac astudio creadigrwydd?
  •  Sut y gellir annog creadigrwydd a’i integreiddio i ymchwil a’r gymdeithas?

Mae’r clwstwr o’r farn bod angen parhaol am fethodolegau creadigol ac ymagweddau at ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer. Gall yr rhain, fel canghennau gweddol newydd yn y byd academaidd, ryddhau llawer o botensial a llunio’r dirwedd ymchwil. Am y rheswm hwnnw, mae clwstwr Creadigrwydd mewn Ymchwil yn hybu deialog rhwng prosiectau sy’n seiliedig ar ymarferiad ac ymchwil mwy traddodiadol: yr amcan yw darparu’r offer sydd eu hangen ar bobl er mwyn edrych ar broblemau a chwestiynau o onglau a safbwyntiau mwy cynnil.

Mae’r clwstwr yn chwilio am, yn trafod, ac yn hyrwyddo dulliau a methodolegau y gellir eu benthyca o arferion creadigol a’r celfyddydau, a’u cymhwyso i feysydd a ffurfiau eraill o ymchwil.

Arweinydd clwstwr

  • Rachel Carney (Prifysgol Caerdydd)

Darllenwch fwy am Greadigrwydd mewn Ymchwil

Dilynwch y clwstwr ar Twitter: @creativity_dtp

Nôl i’r brig

Ailfeddwl Cymunedau

Mae Ailystyried Cymunedau yn rhwydwaith o ymchwilwyr y mae eu diddordebau ymchwil, prosiectau, dulliau, a/neu gefndiroedd yn rhyngweithio â’r syniad o gymuned. Mae’r clwstwr yn croesawu ymchwilwyr o bob disgyblaeth a chyfnod amser. Diben y clwstwr yw annog ei aelodau i feddwl yn feirniadol ac yn fyfyriol am:

  1. Materion cysyniadol a methodolegol, gan gydnabod ein hunaniaeth, rhagfarnau, rhagdybiaethau, a grym wrth weithio gyda chymunedau a/neu eu harchwilio.
  2. ‘Cymuned’ fel term/gweithgaredd eang heb ddiffiniad syml.
  3. Syniadau am undod, cydberthynas a chymdeithasoldeb

Gofynna’r clwstwr:

  • Sut mae gwleidyddiaeth, diwylliant a chymdeithas yn effeithio ac yn siapio ein syniadau o gymuned?
  • Sut gallwn ni weithredu newid systemig i symud y byd academaidd i gymuned fwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol?
  • Pwy sy’n cael eu cynnwys gan gymunedau a phwy sy’n cael eu hallgau?
  • Pa ddulliau allwn ni eu defnyddio i archwilio cymuned? Sut gallwn ni archwilio’r cysyniad hwn yn sensitif?
  • Pa fanteision y gall eu cynnig i’r byd academaidd sy’n canolbwyntio ar effaith?

Mae’r clwstwr yn cynnal ystod o weithgareddau, gan gynnwys grwpiau trafod misol a sesiynau gwaith ar y waith. Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021-2022, maent yn cynllunio cyfres o seminarau gyda siaradwyr gwadd ac yn bwriadu sefydlu blòg ein hunain. Rydym hefyd yn cynnal boreau coffi rheolaidd i sgwrsio a rhwydweithio â chydweithwyr!

Croeso i bawb! Cysylltwch drwy rethinkingcommunitynetwork@gmail.com

Arweinydd clwstwr

• Nyle Bevan-Clark (Prifysgol Southampton)

Dilynwch ar y clwstwr ar Twitter: @swwdtp_rcn

Yn ôl i’r brig

Gofod, Cymuned a Diwylliant

Arweinydd clwstwr

  • Katy Humberstone (Prifysgol Caerwysg)

Nôl i’r brig

Ieithoedd: Gorffennol, Presennol a Dyfodol

Iaith ac ieithoedd yw ffocws y clwstwr hwn, gan gynnwys:

  • iaith
  • ieithoedd
  • cymunedau o siaradwyr
  • ieithyddiaeth gymhwysol/ddamcaniaethol

Mae gan aelodau’r clwstwr ddiddordebau ymchwil eang sy’n rhychwantu gwaith ar ieithoedd cyfoes a’u cymunedau yn ogystal â siaradwyr ac ieithoedd y gorffennol a’r dyfodol. Yn ogystal ag iaith fel gwrthrych astudio, mae’r clwstwr yn ystyried y rôl sydd gan iaith ei hun fel cyfrwng neu offeryn gweithgareddau ymchwil.

Darganfyddwch fwy am y clwstwr, ei aelodau a digwyddiadau sydd ar y gweill drwy ymweld â’i wefan: languages-swwdtpluster.

Dilynwch y clwstwr ar Twitter: @LanguageCluster

Nôl i’r brig

© 2024 South, West & Wales Doctoral Training Partnership

Privacy Policy