Mathau o wobrau

Ceir dau lwybr gwahanol y gallwch wneud cais am ysgoloriaeth ymchwil SWWDTP drwyddynt. Gallwch wneud cais am y ddau fath o ysgoloriaethau yn yr un rownd, ond bydd angen cyflwyno dwy gais ar wahân, o ganlyniad i natur wahanol y ddau fath o wobr.

Gwobrau a arweinir gan fyfyrwyr

Croesawn geisiadau o ansawdd uchel gan ddarpar fyfyrwyr sy’n dymuno cynnig eu prosiectau ymchwil eu hunain. Mae’r SWWDTP yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr gael dau oruchwylydd o ddau sefydliad gwahanol o fewn y consortiwm, oni bai mai dim ond mewn un sefydliad y gellir dod o hyd i’r arbenigedd angenrheidiol; mae amgylchiadau o’r fath yn eithriadol.

Mae’n rhaid i’ch goruchwylwyr dewisedig fod wedi cytuno i oruchwylio’ch prosiect a bydd yn rhaid i chi wneud cais i’r SWWDTP ac i’r sefydliad y mae eich prif-oruchwylydd wedi’i leoli ynddo. Dylech weithio’n agos gyda’ch goruchwylwyr dewisedig wrth lunio’ch cais. Bydd eu cyngor yn eich helpu i gyflwyno cais o safon uchel.

Gwobrau Doethurol Cydweithredol

Mae Gwobrau Doethurol Cydweithredol (neu GDC) yn brosiectau ysgoloriaethau doethurol a ddatblygwyd gan academyddion y Consortiwm ar y cyd â mudiad nad yw’n sefydliad addysg uwch. Mae’r tîm goruchwylio wedi’i bennu ymlaen llaw ac yn aelodau ohono mae dau academydd y Consortiwm ac un aelod o’r mudiad partner.

Yr hyn a gynigir gan GDC yw cyfle i gael profiad ymarferol o waith tu allan i gyd-destun y brifysgol wrth ichi gyfoethogi’r sgiliau cyflogadwyedd a’r hyfforddiant a gaffaelir gennych yn ystod cyfnod eich ysgoloriaeth.

Mae 9 o Wobrau Doethurol Cydweithredol ar gael i ddechrau ym mis Medi 2023.

Beth mae ysgoloriaeth ddoethurol yn ei gynnwys?

  • Ffioedd dysgu a delir ar lefel myfyriwr cartref o’r DU
  • Tâl cynnal a chadw llawn. Mae hyn yn berthnasol i bob myfyriwr, boed yn myfyrwyr cartref neu’n rhyngwladol
  • Rhaglen hyfforddiant gyflawn wedi’i theilwra ar gyfer ein myfyrwyr- mae hyn ar ben yr hyfforddiant a ddarperir gan y sefydliad cartref.
  • Cyllid i gefnogi caffael sgiliau ychwanegol a lleoliadau gyda darparwyr nad ydynt yn sefydliadau addysg uwch (SAU) a fydd yn gwella ymchwil a phrofiad y myfyriwr i wella cyflogadwyedd
  • Yn ogystal â hyn, fe ychwanegir £550 y flwyddyn at ariantal myfyrwyr Gwobrau Doethurol Cydweithredol (CDA). Diben y swm ychwanegol hwn yw gwrthbwyso costau a achosir gan yr angen i weithio ar y safle partner nad yw’n SAU

Ymgeiswyr rhyngwladol

Mae gwladolion nad ydynt yn ddinasyddion y DU yn gymwys i wneud cais am Wobrau doethurol a arweinir gan fyfyrwyr a Gwobrau Doethurol Cydweithredol. Mae lefel y ffioedd dysgu a delir i fyfyrwyr rhyngwladol yn gyfwerth â lefel y ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr cartref y DU.

Mae pob aelod o’r consortiwm yn pennu sut mae’n rheoli’r gwahaniaeth rhwng ei ffioedd myfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gwiriwch dudalennau ariannu perthnasol eich sefydliad cartref dewisedig am ei bolisïau perthnasol. Mae’r rhan fwyaf o aelodau’r consortiwm yn diystyru’r gwahaniaeth mewn cyfraddau ffioedd.

Prosiectau Gwobrau Doethurol Cydweithredol 2022

Mae ein Gwobrau Doethurol Cydweithredol (GDC) yn eich galluogi i gyfrannu at ddatblygiad prosiect ymchwil sydd eisoes wedi’i amlinellu gan dîm o ymchwilwyr sefydledig o fewn y consortiwm a’i sefydliadau partner.

Mae pob GDC yn cynnwys darpariaeth ar gyfer hyfforddiant yn y sgiliau penodol fydd eu hangen arnoch i gyflawni’r ymchwil sydd i’w wneud, a hefyd ar gyfer cyfleoedd gwella cyflogadwyedd yn y byd academaidd a thu hwnt.

Dylai eich cynnig ymchwil egluro’r cyfeiriad yr ydych yn bwriadu mynd â’r prosiect, yr arbenigedd y byddwch yn ei gyfrannu ato, a’r cyfleoedd datblygu gyrfa benodol y mae gennych fwyaf o ddiddordeb mewn manteisio arnynt.

Dyddiadau ymgeisio

Mae’r galwad am brosiectau GDC gan oruchwylwyr ar agor tan ddydd Llun 3ydd o Hydref 2022. Caiff y prosiectau dewisedig eu cadarnhau ar ddechrau mis Tachwedd 2022 ar y dudalen hon.

Agora ceisiadau gan fyfyrwyr am Wobrau Doethurol Cydweithredol ar 21ain Tachwedd 2022

Sylwch: Byddwn yn darparu arweiniad llawn ar y broses o wneud cais am GDC ym mis Hydref ar y dudalen hon.

© 2024 South, West & Wales Doctoral Training Partnership

Privacy Policy