Canllawiau preswyliad

Rydym yn noddi myfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol a chanddynt dystiolaeth o addewid eithriadol ar gyfer astudiaethau doethurol. Bydd gan ein myfyrwyr brosiect cymhellol sy’n elwa o’r arbenigedd a gynhigiwn i mewn ac ar draws ystod o bynciau ac o’n hadnoddau archifol cyfoethog a’n rhwydwaith o bartneriaid proffesiynol.

Cymhwystra ar gyfer ysgoloriaethau ymchwil

Mae ysgoloriaethau ymchwil SWWDTP yn agored i ymgeiswyr amser llawn a rhan-amser o’r DU a thramor. Nid yw myfyrwyr mewn cyflogaeth amser llawn yn ystod eu PhD yn gymwys ar gyfer ysgoloriaeth ymchwil. Gall myfyriwr sydd mewn cyflogaeth ran-amser yn ystod ei PhD fod yn gymwys i gael dyfarniad rhan-amser; ni ddylai astudio rhan-amser fod yn llai na 50% o amser llawn.

Mae myfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau astudio doethuriaeth yn gymwys i wneud cais am gyllid AHRC, ar yr amod bod ganddynt o leiaf 50% o gyfanswm y cyfnod a ariennir yn weddill (blwyddyn a 10 mis ar gyfer ymgeiswyr amser llawn) ar ddechrau’r Gwobr AHRC.

Mae ysgoloriaethau ymchwil SWWDTP yn rhoi hawl i fyfyrwyr doethurol y DU a rhyngwladol gael gwobr ffioedd dysgu ac ariantal  cynhaliaeth llawn.

Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, bydd UKRI/AHRC – ac felly SWWDTP – ond yn ariannu ffioedd hyd at lefel ffi ‘Home UK’. Mae pob aelod o’r consortiwm yn penderfynu sut mae’n rheoli’r gwahaniaeth rhwng ei ffioedd dysgu myfyriwr cartref a myfyrwyr rhyngwladol. Gwiriwch dudalennau ariannu perthnasol eich sefydliad cartref dewisedig am ei bolisi ar sut mae’n rheoli’r gwahaniaeth hwn.

Statws preswyliad

At ddibenion gofynion preswyliad, mae’r DU yn cynnwys y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd (Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw).

Er mwyn cael eich categoreiddio fel myfyriwr cartref, rhaid i ymgeiswyr fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Bod yn Ddinesydd y DU (gan fodloni gofynion preswylio), neu
  • Bod â statws sefydlog, neu
  • Bod â statws preswylydd yn y gorffennol (a oedd yn bodloni gofynion preswylio), neu
  • Bod â chaniatâd amhenodol i aros neu ddod i mewn i’r DU

Mae ymgeisydd nad yw’n bodloni’r meini prawf uchod yn cael ei g/chatgoreiddio  fel myfyriwr rhyngwladol. Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol adleoli i’r DU a byw o fewn pellter rhesymol i’w sefydliad cartref am gyfnod eu cyllid. Ni all SWWDTP ariannu PhDs dysgu o bell.

Rhaid i ymgeiswyr rhyngwladol sicrhau eu bod yn bodloni gofynion fisa a phreswyliad. Mae UKRI yn cynnig arweiniad pellach i ymgeiswyr rhyngwladol.

Download EU and international eligibility for UKRI studentships from 2021 (PDF, 195kB)

Cymhwystra academaidd

I fod yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaeth ddoethurol, fel arfer dylai fod gennych, neu fod yn astudio ar gyfer, gradd Meistr neu gymhwyster ôl-raddedig tebyg. Dylech hefyd fod wedi bodloni holl ofynion cwrs eich sefydliad cartref cyn dyddiad dechrau ysgoloriaeth ymchwil SWWDTP.

Os nad oes gennych brofiad o astudiaeth ôl-raddedig ffurfiol, byddech yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaeth ymchwil pe gallech ddangos tystiolaeth o brofiad parhaus y tu hwnt i’ch gradd israddedig sy’n benodol berthnasol i’ch pwnc ymchwil arfaethedig a/neu fethodoleg y gellid ei ystyried yn gyfwerth. i astudiaeth Meistr.

© 2024 South, West & Wales Doctoral Training Partnership

Privacy Policy